Yn 2007 agorwyd yr adeilad newydd lle lleolir yr ysgol heddiw uwchlaw pentref Rhosllannerchrugog. Mae’n adeilad modern ac addas ar gyfer yr unfed ganrif a’r hugain. Mae’r ysgol wedi ei henwi ar ol y bardd lleol I.D. Hooson, bardd a alwyd yn fardd Cymru ac yn ffrind annwyl i blant Cymru.
Ers symud i’r adeilad newydd, cynyddu mae’r galw wedi bod yn yr ardal am addysg Gymraeg. Er hyn, mae’r ysgol yn parhau i fod yn un sydd yn gymuned glos.
Rydym yn gobeithio y bydd y wefan yn rhoi ychydig o wybodaeth a blas i chi o fywyd yr ysgol.
Pennaeth: Rhodri Jones
Ysgol ID Hooson,
Rhosllanerchrugog,
Wrexham,
LL14 2DX
01978 832950
headteacher@hooson-pri.wrexham.sch.uk
© 2023 Ysgol Hooson. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd.
Hysbysiad Preifatrwydd